
Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Using Technology
Defnyddio Techoleg
Gall defnyddio technoleg yn ystod y cyfnod hunan-ynysu fod yn werthfawr iawn. Gall ynysu achosi teimladau o unigrwydd ac iselder ond mae ffyrdd o gysylltu â theulu neu ffrindiau ar wasanaethau sgwrs fideo. Gallwch hefyd greu archeb siopa ar y we neu ddatblygu eich sgiliau digidol trwy gyrsiau ar y we am ddim.

Mae’r gwasanaethau sgwrs fideo poblogaidd yn eich galluogi i sgwrsio ar y we yn hytrach na llinell ffôn. Mae gyda chi hefyd yr opsiwn o sgwrsio heb y fideo. Dyma fanteision ac anfanteision pob gwasanaeth.
Video Chatting Services


Dechrau
Bydd angen dyfais ddigidol glyfar. Gallai fod yn ffôn sgrîn gyffwrdd /tabled / cluniadur neu pc. Gallwch dderbyn y gwasanaethau yma trwy borwr gwe fel Internet Explorer neu Chrome. Rhaid derbyn y rhyngrwyd trwy eich rhyngrwyd cartref trwy lwybrydd ( router) neu trwy ddefnyddio eich lwfans data o’ch cytundeb ffôn.
Rhoi App ar Ffôn Glyfar neu Dabled
Bydd rhaid gosod yr app i wneud galwad fideo ar eich ffôn clyfar/ tabled/ cluniadur neu pc. Bydd rhaid chwilio amdano yn eich app store.
FAr gyfer ffonau clyfar Android a thabledi edrychwch am logo Google play store:
Ar gyfer iphone Apple ac ipad edrychwch am logo siop Apple:



I’ch helpu i ddod o hyd i’r gwasanaeth galwad fideo, mae angen edrych am eu logo poblogaidd wrth chwilio.
What’s app –
Houseparty –
Skype –



Zoom -
Facebook Messenger –
Facetime -



Ar gyfer Cluniadur/ PC
Os oes gennych gluniadur neu pc, gallwch ei ffeindio trwy chwilio mewn porwr gwe fel Internet Explorer neu Chrome.
Internet Explorer –
Chrome -
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn i’w lawrlwytho i’ch dyfais, ac fe gewch gynnig creu cyfrif gydag enw defnyddiwr a chyfrinair. Yna gallwch ddechrau ychwanegu manylion cyswllt teulu a ffrindiau a byddwch ar eich ffordd i wneud eich galwad gyntaf.
Angen help?
Os yw technoleg yn newydd i chi, gall fod yn anodd, ond os oes arnoch angen cymorth rydym yn hapus i helpu. Cysylltwch â ni trwy’r dudalen gyswllt..


