
Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Allgymorth
Angen Gwirfoddolwyr Allgyrraedd Ar Gyfer Galw I Mewn Digidol

Rydym yn gobeithio sefydlu galw i mewn digidol yn Llety Cysgodol Fitzroy Lodge yn y Coed Duon i gefnogi preswylwyr gyda’u hanghenion digidol.
Mae angen gwirfoddolwyr digidol yn y categorïau canlynol:
-
yn byw yn neu yn agos i’r Coed Duon neu yn barod i deithio
-
gyda sgiliau digidol sylfaenol
-
yn gallu bod yn amyneddgar a chefnogol
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar hwn rol y gwirfoddolwr digidol
Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais ebostiwch: volunteer@caerphillyminerscentre.org.uk


Fitzroy Lodge, Coed Duon

.jpg)
Cole Court
Mornington Meadows

Plas Hyfryd
Castle Maen
Wedi ei ariannu trwy Gronfa 'Together' United Welsh , nod Prosiect Allgymorth Glowyr Caerffili yw ymestyn y ddarpariaeth bresennol a datblygu gweithgareddau newydd ar gyfer pobl hŷn yn y gymuned, boed hynny yn bersonol neu dros Zoom.
Mae'r prosiect yn darparu tenantiaid cynlluniau llety ar draws y Fwrdeistref gyda chyfleoedd i gwrdd â phobl newydd, dysgu rhywbeth newydd a chael hwyl. Mae ein tîm o wirfoddolwyr wedi sefydlu rhaglen o weithgareddau cyson yn llwyddiannus yn y cynlluniau llety yma sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd, gan gynnwys ymarferion cadair, dosbarthiadau celf, prynhawniau cymdeithasol Aeron Aeddfed y Glowyr a chyrsiau cynhwysiant digidol.
Wrth ddarparu ymgysylltiad rheolaidd, ymarfer corff a sesiynau creadigol mae'r prosiect hwn wedi addasu sesiynau llwyddiannus y Glowyr i fod yn fwy hygyrch a pherthnasol i hyd yn oed mwy o bobl yn ein cymuned.
Cefnogi trigolion ar ein Cwrs Digidol


Gwaith Celf a grewyd yn y Dosbarthiadau Celf
Tystebau
Mae mynychu dosbarthiadau'r cwrs digidol wedi fy ngalluogi i fynd allan o'm parth cysur gyda thechnoleg. Rwyf wedi dysgu llawer o bethau sy'n bwysig i 'w gwybod mewn byd sy'n ein gwthio i ddefnyddio mwy ar ein ffonau a'n tabledi. Mae wedi bod yn amhrisiadwy i ddysgu sut i greu pasbort covid mewn amgylchedd galonogol a chefnogol. Mae'r athro a'r gwirfoddolwyr wedi bod yn wych ac wedi rhoi'r dewrder i mi ddefnyddio fy negeseuon e-bost a bancio yn amlach ar fy ffôn. Mae wedi bod yn wych bod y cwrs hwn wedi ei gynnig trwy'r prosiect allgyrraedd. Mae hyn wedi ei gwneud yn bosibl i mi fynychu cwrs a fyddai'n amhosibl fel arall.
-Pat-
Mae'r sesiynau galw heibio wedi bod yn wych! Rwy'n gwybod bod tîm digi cefnogol a all fy helpu gyda fy holl broblemau digidol gan gynnwys Pasbort Covid a'm negeseuon e-bost.
-Maggie-
Rwyf wedi dysgu sut i chwilio ar Google ac edrych ar y newyddion pan fyddaf eisiau. Mae Mel a'r gwirfoddolwyr wedi rhoi'r hyder i mi roi cynnig ar hyn ar fy mhen fy hun.
-Val-
Ein tim
Tara - Mae Tara yn arbenigwr cymorth TG cymwysedig, yn raddedig yn y celfyddydau perfformio ac yn berson sydd ag angerdd am rymuso unrhyw un sydd â sgiliau TG sylfaenol i frwydro yn erbyn ynysu. Ei rôl wirfoddol yw cysylltu rhai yn y gymuned â digwyddiadau sy'n digwydd yng Nghanolfan y Glowyr trwy dechnoleg. Mae Tara hefyd yn arwain y dosbarthiadau celf wythnosol, gan gefnogi llesiant cyfranogwyr trwy weithgareddau artistig a cherddoriaeth.
Helen - Mae Helen yn cyfarfod yn wythnosol gyda thrigolion yn eu lolfa gymunedol mewn cynllun lleol. Mae'r sesiwn yn cysylltu drwy Zoom a grŵp yr Aeron Aeddfed yng Nghanolfan y Glowyr Caerffili lle mae ystod eang o weithgareddau ar gael. Pan nad yw'r weithgaredd a gynlluniwyd yn gyfeillgar i Zoom, mae Helen yn darparu gweithgareddau amgen yn bersonol. Mae'r gweithgareddau yn cael eu hystyried yn dda er mwyn rhoi i bawb dan sylw amser pleserus yn cymdeithasu a chynnal symudedd yn ogystal â chadw'r ymennydd yn fywiog.

_edited.jpg)
Cymrwch ran
Gall gwirfoddolwyr allgymorth gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau a bod yn rhan o dîm sy'n gweithio i hybu hyder a llesiant ymysg cyfranogwyr. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys:
-
Cynnal dosbarthiadau celf a phrynhawniau cymdeithasol yr Aeron Aeddfed
-
Gosod Zoom mewn lolfa gymunedol er mwyn i gyfranogwyr allu dilyn gweithgareddau
-
Cynorthwyo arweinydd trwy siarad a phobl a helpu i redeg gweithgareddau
Mae gwirfoddoli yn y prosiect Allgymorth yng Nghanolfan y Glowyr Caerffili wedi rhoi cyfle i mi fynd allan i'r gymuned a chefnogi rhai nad ydynt fel arall yn gallu mynychu gweithgareddau. Mae'r amgylchedd gefnogol yn y Glowyr wedi fy helpu i fagu hyder a rhoi ymdeimlad o gyflawniad i mi. Mae'n lle gwych i wirfoddoli gan fod ystod eang o weithgareddau i fod yn rhan ohonynt a gallwch wneud gwahaniaeth yn y gymuned.
-Tara-
Os hoffech chi neu rywun rydych yn ei adnabod ymuno fel aelod o'r dosbarth neu wirfoddolwr, cysylltwch os gwelwch yn dda.
Ebostiwch : volunteer@caerphillyminerscentre.org.uk