
Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Swyddog Cyfleusterau
Disgrifiad Swydd
Oriau: 10-12 awr yr wythnos
Cyflog: £11 yr awr
Yn gyfrifol i: Ysgrifennydd y Cwmni
Lleoliad: Canolfan y Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned / Gartref
Trosolwg
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfleusterau i ddechrau gweithio i ni cyn gynted â phosibl.
Eich rôl fel Swyddog Cyfleusterau yw sicrhau bod y Ganolfan yn weithredol fel gofod diogel, pwrpasol a derbyniol o ran cyflwr bob amser. Byddwch yn gyfrifol am yr ardaloedd yn yr adeilad, yn sicrhau bod yr offer yn gweithio, clustnodi gweithwyr allweddol ar gyfer cynnal a chadw ac argyfwng, archebu deunydd ysgrifennu, offer a lluniaeth a chefnogi gwaith stiwardiaid, gwirfoddolwyr a staff cyflogedig, Yn ddelfrydol, rydyn ni eisiau rhywun a all weithio 2-3 gwaith yr wythnos.
Mae Canolfan y Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned yn gyflogwr cyflog byw. Rydym yn sefydliad sydd â'r nod o gefnogi'r gymuned a'i gwirfoddolwyr. Rydym yn chwilio am rywun sydd ag agwedd gadarnhaol, gallu-gwneud, sy'n drefnus ac yn weinyddwr effeithiol, sy'n gwerthfawrogi cyfraniad eraill ac sy'n llysgennad i'r Ganolfan bob amser.
Dyletswyddau
-
Sicrhau bod ein gwasanaethau'n gweithio'n effeithlon ac yn effeithiol, gan gynnwys nwy, trydan, a chyflenwadau dŵr, dŵr poeth
-
Cadw at bolisi datblygu cynaliadwy wrth sicrhau ein bod yn cyfyngu gwastraff ac yn ailgylchu i'r eithaf
-
Sicrhau bod offer ar gael ac yn gweithio yn cynnwys TG, llungopio, taflunydd, offer glanhau.
-
Adnabod gweithwyr allweddol ar gyfer cynnal a chadw / argyfyngau (e.e. plymiwr, trydanwr) a chaffael gweithwyr yn ôl yr angen (e.e. glanhau ffenestri)
-
Sicrhau bod yr adeilad yn lan a diogel, arolygu asesiadau risg.
-
Prynu deunydd ysgrifennu, offer a lluniaeth ar gyfer gweithgareddau yn gysylltiedig a llogi ystafell.
-
Cefnogi gwaith stiwardiaid, gwirfoddolwyr, pobl sy'n glanhau a staff cyflogedig a sicrhau iddynt gael eu hyfforddi yn bwrpasol i wneud eu gwaith
Byddwch yn gwybod i chi lwyddo os:
-
Bydd y Ganolfan yn gwbl weithredol bob amser ar gyfer archebu a gweithgareddau
-
Bydd y tim cyfleusterau - Iechyd a Diogelwch, Glanhawyr - yn gydlynus ac effeithiol
-
Gall stiwardiaid a llogwyr ystafell fod yn siwr y gall gweithgareddau ddigwydd yn ddiogel
-
Bydd gyda ni restr o weithwyr cymwysedig y gallwn eu galw yn ol yr angen
-
Bydd y cofnodion i gyd yn gyfredol.
Manylion Personol:
Bydd yn rhaid i chi feddu ar y sgiliau, y priodoleddau a'r profiadau canlynol;
-
Bod yn drefnus
-
Sgiliau gweinyddu da
-
Sgiliau cyfathrebu cryf
-
Llythrennedd cyfrifiadurol
-
Bod yn hunan-ysgogol, yn gallu gweithio ar eich pen eich hun ac ysgogi eraill
-
Angerdd am wella, ymgysylltu a chefnogi'r gymuned leol.
Byddai'r canlynol yn fanteisiol ond nid ydynt yn angenrheidiol:
-
Profiad o reoli swyddfa
-
Siarad Cymraeg
-
Byw yn gymharol agos i'r Glowyr
Ffurflen gais: Swydogg Clyfleusterau
Dychwelwch eich ffurflen gais wedi ei llenwi at ein hysgrifennydd Katherine Hughes
secretary@caerphillyminerscentre.org.uk 029 2167 4242
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 25 Chwefror 2022